Technoleg Adnewyddadwy
Sut mae’n gweithio Mae pympiau gwres yn cynhesu eich cartref drwy dynnu gwres o’r awyr neu o’r ddaear. Maen nhw’n defnyddio llai o ynni na boeler. Maen nhw’n torri carbon. Maen nhw’n cadw eich cartref yn gynnes, hyd yn oed mewn tywydd oer. Mae’r system yn tynnu gwres o’r awyr Mae cywasgydd yn hybu’r gwres hwn gan ddefnyddio ychydig bach o drydan Mae’r gwres yn pasio i mewn i’ch cartref i gynhesu ystafelloedd a dŵr twym Mae’r cylch yn ailadrodd i gadw eich cartref ar dymheredd cyson. Manteision Effeithiol – am bob 1 kW of o drydan, rydych chi’n cael 3–4 kW o wres Carbon isel – mae’n torri allyriadau o’i gymharu â nwy neu olew Hyblyg – mae’n cynhesu eich cartref a dŵr twym. Gall rhai systemau oeri hefyd Dibynadwy – mae’n gweithio’n dda hyd yn oed mewn hinsawdd oer. Gwres o’r Awyr (ASHP) Mae Pwmp Gwres o’r Awyr yn cymryd gwres o’r awyr tu fas a’i ddefnyddio i gynhesu eich cartref. Mae’n gweithio yn y gaeaf, hyd yn oed pan fydd hi’n rhewi. Trydan sy’n ei redeg, ac mae’n cynhyrchu llawer mwy o wres nag y mae’n defnyddio.
Sut mae’n gweithio Pwmp gwres (prif ffynhonnell) Mae’n gweithio fel system aerdymheru am yn ôl. Mae’n tynnu gwres o awyr tu fas, hyd yn oed pan fydd hi’n oer. Mae’n gweithio’n effeithiol yn y rhan fwyaf o dywydd. Boeler (wrth gefn) Bydd ond yn cynnau pan fydd y tymheredd yn disgyn yn rhy isel i’r pwmp gwres weithio’n effeithiol. Mae’n defnyddio nwy, olew neu drydan. Rheolyddion clyfar Bydd synwyryddion a thermostatau’n penderfynu pryd i symud rhwng y pwmp gwres a’r boeler. Maen nhw’n gwirio’r tymheredd, y pris gweithredu, ac effeithiolrwydd. Mae’r system yn dewis yr opsiwn rhataf a mwyaf effeithiol. Manteision Ynni-effeithlon – mae’r pwmp gwres yn darparu’r rhan fwyaf o’r gwres. Dibynadwy – mae’r boeler yn sicrhau gwres yn ystod oerfel eithafol. Cost-effeithlon – mae’n lleihau biliau. ynni drwy ddefnyddio’r tanwydd gorau ar yr adeg orau. Eco-gyfeillgar – mae’n lleihau allyriadau carbon. Pump Gwres Hybrid Mae systemau hybrid yn paru pwmp gwres gyda boeler. Y pwmp gwres sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith. Mae’r boeler yn camu i’r adwy pan fydd ei angen yn unig.
Manteision Hynod effeithlon – mae’n cynhyrchu 3 – 4 uned o wres am bob 1 uned o drydan. Carbon isel – hyd yn oed yn is pan gaiff ei bweru gan drydan adnewyddadwy. Costau cynnal isel – rhatach i’w gynnal na nwy nac olew ar ôl ei osod. Bywyd hir – gall dolenni daear bara dros 50 mlynedd. Sut mae’n gweithio Mae dolen o bibellau sydd wedi’u claddu’n dal cymysgedd o ddŵr a gwrthrewydd. Mae’r ddaear yn aros ar dymheredd sefydlog drwy gydol y flwyddyn Wrth i hylif gylchdroi o gwmpas y ddolen, mae’n amsugno gwres naturiol o’r ddaear Mae’r hylif cynnes yn mynd i mewn i’r pwmp gwres. Mae cywasgydd yn hybu’r tymheredd. Mae’n gweithio fel oergell, ond tu chwith. Mae’r system yn anfon gwres i reiddiaduron, gwres o dan y llawr, a dŵr twym. Gwres o’r Ddaear (GSHP) Mae Pwmp Gwres o’r Ddaear (a elwir hefyd yn bwmp gwres geothermaidd) yn defnyddio’r cynhesrwydd cyson a storir yn y ddaear i wresogi eich cartref.
Manteision Arbedion ynni – mae’n adfer hyd at 90% o wres a fyddai fel arall yn cael ei golli. Gwell ansawdd i’r aer – mae’n darparu llif cyson o awyr iach sydd wedi’i hidlo. Rheoli lleithder – mae’n helpu i atal anweddu, tamprwydd a llwydni. Cyffyrddus – mae’n cynnal tymheredd cytbwys ac yn dileu drafftiau. Awyru Mecanyddol gydag Adfer Gwres (MVHR) Mae Awyru Mecanyddol gydag Adfer Gwres (MVHR) yn dod ag awyr iach i’ch cartref ac yn echdynnu hen awyr. Ar yr un pryd, mae’n adfer gwres a fyddai fel arfer yn dianc. Mae hyn yn peri fod eich cartref yn gynnes, effeithiol, ac wedi’i awyru’n dda. Mae MVHR yn gweithio orau mewn cartrefi modern, sy’n dal aer yn drylwyr. Sut mae’n gweithio Mae’n tynnu hen aer llaith o geginau, ystafelloedd ymolchi ac ystafelloedd amlbwrpas. Mae’n tynnu awyr iach o’r tu fas i mewn ar yr un pryd Mae’n trosglwyddo gwres o’r aer sy’n mynd mas i’r awyr iach sy’n dod i mewn, heb gymysgu’r ddau Mae’n anfon awyr cynnes, wedi’i hidlo, i leoliadau byw fel ystafelloedd gwely ac ystafelloedd byw. Mae’n cadw’r cartref yn gyffyrddus, sych ac yn ynni- effeithlon.
Manteision Effeithiol– mae’n cynhesu gwrthrychau’n uniongyrchol, felly llai o ynni’n cael ei wastraffu ar gynhesu’r awyr. Cyflym– mae’n darparu gwres bron ar unwaith. Tawel– dim ffans na darnau sy’n symud. Glân– dim allyriadau na llosgi. Cyffyrddus– mae’n creu cynhesrwydd naturiol tebyg i’r haul. Defnydd Mewn cartrefi a swyddfeydd – paneli wal neu nenfwd. Sawnas – ar gyfer eu gwres sy’n treiddio’n ddwfn. Patios awyr agored. Gwresogi Is-goch Mae gwresogi is-goch yn defnyddio ymbelydredd is- goch i gynhesu gwrthrychau a phobl yn uniongyrchol, yn hytrach na chynhesu’r awyr o’u cwmpas.
Sut mae’n gweithio Bydd paneli solar yn dal golau’r haul gan ddefnyddio celloedd ar eu harwyneb. Mae’r celloedd hyn yn troi golau’r haul yn drydan. Mae’r trydan yn cael ei ddefnyddio yn eich cartref wedyn. Gall unrhyw drydan ychwanegol a gynhyrchir gael ei storio mewn batris yn y cartref neu’i anfon yn ôl i’r grid. Paneli Solar PV Mae paneli ffotofoltaidd, neu baneli solar, yn cymryd golau’r haul ac yn ei droi’n drydan. Mae’n digwydd drwy broses syml a elwir yn effaith ffotofoltaidd.
Sut mae’n gweithio Gwefru Bydd paneli solar yn creu trydan yn ystod y dydd. Mae ynni ychwanegol yn cael ei storio yn y batri yn hytrach na mynd yn ôl i’r grid. Gall y batri wefru o’r grid hefyd pan fydd trydan yn rhatach. Storio Bydd y batri’n dal y trydan tan fod ei angen arnoch chi. Defnyddio’r ynni Pan fydd angen ynni ar eich cartref, bydd y batri’n ei gyflenwi (e.e. yn ystod y dydd neu yn ystod toriad trydan) Bydd gwrthdröydd yn newid y trydan i fod ar ffurf y gall eich offer ei ddefnyddio. Manteision Annibyniaeth ynni – defnyddiwch eich ynni eich hunan, hyd yn oed pan fydd y grid yn methu. Biliau is – storiwch drydan rhad neu rad ac am ddim a’i ddefnyddio pan fydd prisiau’n uchel. Eco-gyfeillgar – gwnewch yn fawr o’ch defnydd o ynni adnewyddadwy. Batri yn y Cartref Mae batri yn y cartref yn dal ynni er mwyn i chi allu’i ddefnyddio pan fydd ei angen arnoch: Yn ystod toriad trydan (os oes gan y system yr opsiwn hwn). Yn y nos. Pan fydd pris trydan yn cynyddu. Yn aml bydd yn cael ei baru â phaneli solar, ond gall hefyd storio ynni o’r grid.
Sut mae’n gweithio Gwefru dros nos Bydd y gwresogyddion yn defnyddio trydan rhatach, oriau tawel dros nos. Mae’r trydan hwn yn cynhesu briciau seramig mewnol sy’n storio’r gwres am oriau lawer. Rhyddhau gwres yn ystod y dydd Mae’r gwres a storiwyd yn cael ei ryddhau’n araf drwy gydol y dydd. Bydd ffaniau a thermostatau’n helpu i reoli faint o wres sy’n cael ei ryddhau a phryd. Rheolaeth glyfar Bydd gan lawer o wresogyddion modern offer amseru digidol, synwyryddion a Wi-Fi. Gallant ddysgu eich arferion ac addasu’r gwres yn awtomatig. Bydd rhai modelau’n ymateb i ragolygon y tywydd neu brisiau trydan. Manteision Ynni-effeithlon – gwell insiwleiddio a rheolaeth yn lleihau gwastraff Cost effeithlon – mae’n defnyddio trydan rhatach y nos Hyblyg – mae gennych fwy o reolaeth dros bryd y rhyddheir y gwres, a faint Fawr ddim cynnal a chadw – dim darnau symudol, na dim angen cyflenwad tanwydd. Stôrwresogyddion
Sut mae’n gweithio Cysylltu â ffynhonnell ynni Bydd y gwefrwr yn cael ei gysylltu â’r grid trydan (gartref, yn y gwaith, neu mewn gorsaf gyhoeddus) Yna mae’n tynnu trydan ac yn ei ddarparu i’r EV drwy gebl gwefru Cyfathrebu â’r cerbyd Pan fyddwch chi’n gosod plwg y gwefrwr i mewn, bydd yn cyfathrebu â’r car Mae’r ddau’n cytuno ar y maint cywir o ynni y gall y car ei dderbyn yn ddiogel Gwefru sydyn, effeithiol Bydd peiriannau gwefru yn y cartref a’r gwaith yn anfon ynni i’r car, a bydd y car yn ei ddefnyddio i lenwi’r batri Bydd gwefrwyr sydyn yn gwneud y gwaith yn yr uned. Maen nhw’n gyrru’r ynni yn syth i’r batri ac yn llenwi eich cerbyd yn sydyn pan fyddwch chi allan ar eich taith. Gwefrwr EV Mae gwefrwr EV yn ddyfais sy’n bwydo ynni i gerbyd trydan, gan roi digon o wefru i’r batri er mwyn i’r cerbyd fynd. Gwefru batris yn ddiogel Bydd trydan yn symud i mewn i’ch batri wrth i’r gwefrwr wylio’r gwres a llif yr ynni er mwyn peri fod y gwefru’n ddiogel a sicr Opsiwn gwefru clyfar Bydd llawer o wefrwyr yn cynnwys nodweddion clyfar sy’n eich galluogi i wefru dros nos pan fydd ynni’n rhatach, ac yn eich galluogi i weld faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio .
Manteision Effeithiol – cafodd ei adeiladu i weithio gyda ffynonellau gwres tymheredd isel, gan roi rhyw dair i bedair uned o wres yn fras am bob un uned o ynni a ddefnyddir. Eco-gyfeillgar – mae’n lleihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil Clyfar – yn aml bydd yn cynnwys rheolaeth i wneud yn fawr o adegau gwresogi a defnydd o ynni Cydnaws – mae’n gweithio’n dda gyda systemau thermaidd solar hefyd. Gwresogi o’r awyr Mae pwmp gwres o’r awyr yn cymryd gwres o’r awyr tu fas ac yn ei godi i dymheredd uwch gyda chynhwysydd cryf, cyson. Mae’n dal ati i weithio hyd yn oed pan fydd y tywydd yn oeri. Cynhesu’r dŵr Bydd y gwres hwn yn symud drwy dorch y tu mewn i’r sylindr gan gynhesu’r dŵr sy’n cael ei storio yno. Dŵr twym ar alw Bydd y silindr yn storio dŵr twym ar gyfer eich tapiau, cawod, a bath. Mae deunydd insiwleiddio o safon uchel yn ei gadw’n dwym am yn hirach, fel ei fod yn barod pan fyddwch chi eisiau’i ddefnyddio. Silindr gwres o’r awyr Mae Silindr Gwres o’r Awyr yn danc dŵr twyn sy’\n gweithio gyda phwmp gwres o’r awyr bychan i gyflenwi dŵr twym i’r cartref. Cafodd ei adeiladu i weithio’n dda ar y tymheredd is y bydd pympiau gwres yn eu creu, llawer is na’r gwres a ddaw o hen foeleri.
Gwresogydd panel trydan Mae gwresogydd panel trydan yn uned denau a osodir ar wal, ac a adeiladwyd i gynhesu ystafell yn sydyn heb ddim ffwdan. Mae’n ddewis poblogaidd ar gyfer cartrefi, swyddfeydd, ac unrhyw leoliad sydd angen gwres sydyn, hawdd ei reoli. Sut mae’n gweithio Gwresogi trydan effeithiol Mae gan bob panel elfen gynhesu drydan y tu mewn iddi. Pan fyddwch chi’n cynnau’r uned, bydd gwres yn cynhesu’r elfen yn sydyn gan roi cynhesrwydd yn sydyn ac effeithiol. Dosbarthiad gwres cyson Mae gan bob panel elfen gynhesu drydan y tu mewn iddi. Pan fyddwch chi’n cynnau’r uned, bydd gwres yn cynhesu’r elfen yn sydyn gan roi cynhesrwydd yn sydyn ac effeithiol. Rheolaeth awtomatig dros dymheredd Mae thermostat mewnol yn cynnal tymheredd yr ystafell ar ba bynnag wres rydych chi’n ei osod. Mae’n cynnau’r gwresogydd ac yn ei ddiffodd yn ôl y galw, gan arbed ynni gyda rheolaeth gyson, syml. Manteision Cyflym i dwymo – delfrydol ar gyfer rhoi gwres sydyn Tenau a steilish – gellir ei roi’n dwt ar waliau Hawdd ei osod – dim angen plymwr Fawr ddim cynnal a chadw – dim darnau symudol na thanwydd
Sut mae’n gweithio Cynhyrchu Gwres Bydd boeler neu bwmp gwres yn twymo dŵr gan ddefnyddio nwy, olew, neu drydan. Dosbarthu Gwres Bydd dŵr twym yn llifo drwy bibellau i reiddiaduron. Mae’r rheiddiadur yn cynhesu’r ystafell drwy: Ymbelydredd– gwres o arwyneb y rheiddiadur. Dargludiad– mae awyr cynnes yn codi, gan dynnu awyr oerach i mewn. Falfiau Thermostatig ar gyfer Rheiddiaduron (TRV) Mae Falfiau Thermostatig ar gyfer Rheiddiaduron yn ddyfeisiadau bach a roddir yn sownd wrth reiddiaduron i’ch galluogi i osod tymheredd [pob ystafell yn eich cartref. Maen nhw’n ffordd syml ond effeithiol o wella cysur ac arbed ynni. Manteision Dosbarthiad gwres cyfartal. Gweithredu’n dawel. Rheolaeth fesul parth gyda TRV. Yn cyd-fynd â boeleri modern a phympiau gwres. Rheiddiaduron Mae rheiddiaduron yn rhan o’ch system gwres canolog sy’n darparu gwres drwy gylchdroi dŵr twym neu stêm drwy rwydwaith o bibellau neu reiddiaduron.
